Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 3 Mawrth 2022
Amser:
09.15 -
16.00
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12629
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Llyr Gruffydd AS (Cadeirydd) Janet Finch-Saunders AS Huw Irranca-Davies AS Delyth Jewell AS Jenny Rathbone AS Joyce Watson AS |
Tystion: |
Peter Bingham, Ofgem Tom Glover, RWE Renewables UK Cyfyngedig Dr John Goold, Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) Graham Halladay, Western Power Distribution Dan McCallum, Awel Aman Tawe a Chwmni Cydweithredol Egni Sarah Merrick, Ripple Energy Jon O'Sullivan, EDF Renewables UK Liam O'Sullivan, SP Energy Networks Robert Proctor, Ynni Cymunedol Cymru Karema Randall, Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur (JNCC) Huub den Rooijen, Ystâd y Goron Will Henson, Sefydliad Materion Cymreig Rhys Wyn Jones, Renewable UK Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Marc Wyn Jones (Clerc) Elizabeth Wilkinson (Ail Glerc) Andrea Storer (Dirprwy Glerc) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor wedi cytuno, pe bai e'n gadael y cyfarfod am unrhyw reswm, y byddai Delyth Jewell AS yn Gadeirydd Dros Dro.
2 Cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru – Sesiwn dystiolaeth 1
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr y Sefydliad Materion Cymreig, RenewableUK Cymru ac Ynni Cymunedol Cymru.
2.2 Yn unol â Rheol Sefydlog 17.24A, gwnaeth Jenny Rathbone AS ddatganiad o fuddiant perthnasol.
3 Cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru – Sesiwn dystiolaeth 2
3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Ofgem, Western Power Distribution, a SP Energy Networks.
4 Cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru – Sesiwn dystiolaeth 3
4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr Ystâd y Goron, a'r Cydbwyllgor Cadwraeth Natur.
5 Cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru – Sesiwn dystiolaeth 4
5.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr RWE Renewables UK Ltd, Awel Aman Tawe ac Egni Co-op, Ripple Energy, ac EDF Renewables UK.
6 Papurau i’w nodi
6.1 Cafodd y papurau eu nodi.
6.1 Cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru
6.2 Rheoliadau Cyflyrau Ffytoiechydol (Diwygio) 2022
6.14Y Grŵp Adferiad Gwyrdd
6.4 Fframweithiau Cyffredin Nwyon Tŷ Gwydr wedi'u Fflworeiddio (Nwyon F) a Sylweddau sy'n Teneuo'r Osôn (ODS)
6.5 Cyfarfod COP26 a COP27 y DU a Gweinyddiaeth Ddatganoledig
6.6 Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru
6.7 Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, Senedd Cymru ac Ofcom
6.8 Blaenoriaethau'r Chweched Senedd
7 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) and (ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod heddiw
7.1 Derbyniwyd y cynnig.
8 Cynhyrchu ynni adnewyddadwy yng Nghymru – trafod y dystiolaeth a ddaeth i law o dan eitemau 2, 3, 4 a 5.
8.1 Trafododd yr Aelodau y dystiolaeth a glywyd o dan eitemau 2, 3, 4 a 5.
9 Craffu blynyddol ar waith Cyfoeth Naturiol Cymru: trafod adroddiad drafft y Pwyllgor
9.1 Trafododd y Pwyllgor ar ei adroddiad drafft, a chytunodd arno, yn amodol ar fân welliant.
10 Gollyngiadau carthion o orlifoedd stormydd: trafod adroddiad drafft y Pwyllgor
10.1 Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad drafft a chytunodd arno.
11 Trafnidiaeth Gyhoeddus ar ôl Covid-19: ystyried y cynnig ymgysylltu
11.1 Bu'r Pwyllgor yn trafod y strategaeth arfaethedig ar gyfer ymgysylltu â'r cyhoedd ar drafnidiaeth gyhoeddus ar ôl Covid.